Isaiah 29

Bydd Jerwsalem yn dioddef

1Gwae Ariel!
29:1 Ariel Enw ar Jerwsalem

Ariel, y ddinas ble roedd Dafydd yn byw!
Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio
a'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
2Ond dw i'n mynd i'w phoenydio,
a bydd yn griddfan ac ochneidio.
Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.
3Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,
yn gwarchae arnat hefo byddin
ac offer gwarchae i ymosod arnat ti.
4Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;
bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.
Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,
bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
5A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn
yn cael eu malu fel llwch mân.
Bydd y dyrfa o ormeswyr
fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.
Yn sydyn, mewn chwinciad,
6bydd yr Arglwydd holl-bwerus yn eu cosbi
gyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol;
gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.
7A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel
– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –
fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.
8Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta,
ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;
neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,
ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.
Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd
sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
9Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!
Ydych chi'n hollol ddall?
Wedi meddwi – ond ddim ar win!
Yn chwil – ond ddim ar gwrw!
10Mae'r Arglwydd wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.
Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,
Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.

11Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”. 12Yna mae'n cael ei roi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, a gofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy “Dw i ddim yn gallu darllen.”

13Dyma ddwedodd y Meistr:

Mae'r bobl yma'n dod ata i
ac yn dweud pethau gwych amdana i,
ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i.
Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond
traddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.
14Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma
dro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall.
Ond bydd doethineb y deallus yn darfod,
a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio.

Gobaith i'r dyfodol

15Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio eu cynlluniau
oddi wrth yr Arglwydd!
Y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch,
ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?”
“Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
16Dych chi mor droëdig!
Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai?
Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth,
“Wnaeth e mohono i!”
Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd,
“Dydy e'n deall dim!”
17Yn fuan iawn, oni fydd Libanus
yn cael ei throi yn berllan,
a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.
18Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr,
a bydd llygaid pobl ddall yn gweld
ar ôl bod mewn tywyllwch dudew.
19Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymu
yn llawenhau yn yr Arglwydd,
a'r bobl dlotaf yn gorfoleddu
yn Un Sanctaidd Israel.
20Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen,
a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod;
bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwg
yn cael eu torri i ffwrdd.
21Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr,
ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas,
a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn
gyda dadl wag.

22Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham:

Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto!
Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!

23Achos pan fyddan nhw'n gweld eu plant

a beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith,
byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i.
Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob
Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.
24Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall,
a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.
Copyright information for CYM